Archif: Medi, 2015
Cyfle cyffrous!
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi ei fod wedi cael arian i gynnal prosiect i ddatblygu chwaraewyr Chwythbrennau.
Bydd y prosiect ensemble project yn darparu cyfle i ddisgyblion chwarae ochr yn ochr â chwaraewyr ifanc gorau’r sir, cael hyfforddiant gan yr athrawon gorau, gwella sgiliau mewn modd cyffrous, sy’n hwyl a chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.
-
CANOLFANNAU CERDD A MWY!
Bostio: 23 Med, 2015
Bydd gweithgareddau cerddorol i bobl ifanc y sir yn ail gychwyn! Mae Gwasanaeth Cerdd Conwy’n darparu cerddorfeydd, grwpiau gitâr, Band Mawr, Ensemble Chwythbrennau a Grŵp Llinynnau i bobl ifanc o Gonwy, ac mae cludiant hyd yn oed yn cael ei ddarparu iddynt gyrraedd yno! Y tymor hwn byddwn yn gweld eu gwaith caled yn dod i ben gyda thri chyngerdd gwahanol ar ddiwedd y tymor – disgyblion iau yr arfordir yn perfformio’n Ysgol Aberconwy ar 30 Tachwedd, disgyblion y dyffryn yn perfformio yn Ysgol Dyffryn Conwy ar 10 Rhagfyr a’r disgyblion hŷn yn perfformio’n Eglwys Sant Pawl, Bae Colwyn ar 3 Rhagfyr. Hoffwch ni ar Facebook ar Gelfyddydau Mynegiannol a Cherddoriaeth Conwy neu edrychwch ar ein tudalen gwe www.conwyartsandmusic.org.uk i ganfod mwy!
-
GWOBR NEWYDD I GERDDORION IFANC
Bostio: 23 Med, 2015
Pleser gan Wasanaeth Cerdd Conwy yw cyhoeddi blwyddyn gychwynnol Gwobr Gerdd Reginald Moon i Ieuenctid ar gyfer yr aelod o Gerddorfa Ieuenctid Sir Gonwy sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn ystod y flwyddyn.
-
LLWYDDIANT MEWN ARHOLIADAU CERDD
Bostio: 23 Med, 2015
Llongyfarchiadau i Rebecca Bateson, tiwtor gyda Gwasanaeth Cerdd Conwy a’i disgyblion gyda’u harholiad chwythbrennau ABRSM (Associated Board of the Royal Schools of Music).
Emily Whitley teilyngdod ffliwt Gradd 6
Beth Tapping teilyngdod clarinét Gradd 4
Katie Hyde teilyngdod clarinet Gradd 4
Mae Emily a Beth hefyd yn aelodau o Gerddorfa Ieuenctid Conwy a’r Ensemble Chwythbrennau. -
Cerddorion Ifanc Gwych Conwy
Bostio: 10 Med, 2015
Cerddorion Ifanc Gwych Conwy
Chwaraeodd aelodau Conwy Cerddorfa Ieuenctid Gogledd Cymru 2015 mewn dau gyngerdd ardderchog ym Mangor a Wrecsam a arweiniwyd gan Ben Gernon. Canmoliaeth awr i chi gyd!