Mae Celfyddydau Mynegiannol yn cael eu cynnig fel un o’r chwe maes ‘dysgu a phrofiad’ yn Adolygiad o’r Cwricwlwm Addysg yng Nghymru’r Athro Donaldson.

Mae Dyfodol Llwyddiannus, a gyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2015, yn nodi’r weledigaeth dros newid ac yn pwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau i gwricwlwm eang a chytbwys.
Mae Gwasanaethau Cerdd a Chelfyddydau Mynegiannol Conwy yn cytuno!

Darllenwch mwy yn y darn isod…. Neu ewch
http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/curriculum-for-wales/?skip=1&lang=cy

Sail Resymegol
Drwy Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol, bydd ysgolion ac athrawon yn gallu annog plant a phobl ifanc i feithrin eu gwerthfawrogiad a’u doniau creadigol a’u sgiliau celfyddydol a pherfformio. Mae’r celfyddydau mynegiannol yn cynnig cyfleoedd i ymchwilio, mireinio a chyfleu syniadau, gan ddefnyddio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau mewn ffordd greadigol. Wrth ymwneud â’r celfyddydau mynegiannol, rhaid wrth ymroddiad, dyfalbarhad a gofal am fanylion, ac mae’r rhain yn alluoedd sy’n fanteisiol ar gyfer dysgu’n gyffredinol. Yn yr adolygiad o’r Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, cafwyd y geiriau grymus hyn gan yr Athro Dai Smith, ‘Mae’n amlwg … bod gwledydd ledled y byd yn cydnabod arwyddocâd a photensial y celfyddydau o ran galluogi gwell deilliannau addysgol, cymdeithasol ac economaidd’

Mae’r celfyddydau mynegiannol yn ysbrydoli ac yn ysgogi plant a phobl ifanc gan eu bod yn dod â nhw i gysylltiad â phrosesau creadigol, perfformiadau a chynhyrchion pobl eraill ac yn eu symbylu i arbrofi a chreu eu hunain. Maent yn cynnig llawer o gyfleoedd i fwynhau profiadau fel ymweliadau â theatrau ac orielau celf ac i ddod ag arbenigedd arlunwyr a cherddorion, er enghraifft, i’r ystafell ddosbarth. Bydd cyflawniadau yn y celfyddydau mynegiannol hefyd yn fan cychwyn i gyfranogi drwy gydol oes a gall hyn gyfrannu yn y pen draw at ffyniant economi a bywyd diwylliannol Cymru.

Cwmpas a chysylltiadau â Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill
Bydd Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol yn cwmpasu celfyddyd, drama, cerddoriaeth, dawns, ffilm a chyfryngau digidol, gan ymestyn i agweddau creadigol ehangach fel perfformio’n fyrfyfyr. Mae’r Adolygiad wedi ystyried adroddiad yr adolygiad o’r Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru, a nododd fod ‘y celfyddydau’ yn cynnwys gwneud, perfformio, mynegi neu werthfawrogi un neu ragor o’r ffurfiau canlynol ar gelfyddyd: cerddoriaeth; drama; dawnsio; ffilm a chyfryngau digidol; celfyddydau gweledol a dylunio; llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol. Bydd pob un o’r ffurfiau celfyddydol hyn wedi’u cynnwys yn y cwricwlwm, yn bennaf drwy Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol, ond bydd deilliannau ar gyfer llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd cysylltiadau hefyd rhwng Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol a’r cydrannau sy’n ymwneud â thechnolegau ym Meysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a thechnoleg a’r Dyniaethau wrth ddehongli a mynegi ystyr.

Mae enghreifftiau o’r ffordd y mae profiadau plant a phobl ifanc ym Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau mynegiannol yn gallu cyfrannu at gyflawni pob un o bedwar diben y cwricwlwm yn cynnwys:
• (dysgwyr uchelgeisiol, galluog) eu hannog i ymchwilio i feysydd profiad newydd ac ymestynnol ac i ymdrechu i wella eu perfformiad
• (cyfranwyr mentrus, creadigol) meithrin eu creadigrwydd mewn amrywiaeth o ffurfiau mynegi; cynnig cyd-destunau a heriau cyfoethog lle y gallant gydweithio, gan ddysgu drwy arfarnu eu gwaith yn feirniadol
• (dinasyddion egwyddorol, gwybodus) eu galluogi i ddeall eu hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain yn ogystal â hunaniaeth ddiwylliannol cymdeithasau mewn lleoedd a chyfnodau eraill, ac i drafod materion cymhleth ac anodd
• (unigolion iach, hyderus) eu helpu i fagu cadernid a theimlo’n fwy hyderus wrth gael mwynhad a boddhad personol o fynegiant creadigol; cyfrannu’n uniongyrchol at gyfoethogi eu hansawdd bywyd.